Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mai 2020
Amser:
10.00 -
11.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6324
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Helen Mary Jones AS (Cadeirydd dros dro) Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Dafydd Elis-Thomas AS, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Jason Thomas, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, y byddai David Melding AS yn dod yn Gadeirydd Dros Dro pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2.1 Holodd yr Aelodau y Dirprwy Weinidog a'i swyddogion am Covid-19 a'i effaith ar feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, ac ymateb ei adran hyd yma i'r pandemig.
Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn:
Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cenhedloedd a Rhanbarthau’r BBC i egluro nad darlledwr lleol yw BBC Cymru.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y materion a godwyd yn y llythyr gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y materion a godwyd yn y llythyr gan Media Wales.
Nododd yr Aelodau y papur.
4.1 Ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.
5.1 Ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Cytunodd yr Aelodau ar y cylch gorchwyl yn electronig.